bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 45
Isaiah 45
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 46 →
1
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi ei eneinio; yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd. Yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau:
2
“Dw i'n mynd o dy flaen di i fwrw waliau dinasoedd i lawr, dryllio drysau pres a thorri'r barrau haearn.
3
Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch, stôr o gyfoeth wedi ei guddio o'r golwg — er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD, Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.
4
Dw i wedi dy alw di wrth dy enw er mwyn fy ngwas Jacob, ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi ei ddewis. Dw i'n mynd i roi teitl i ti, er nad wyt ti'n fy nabod.
5
Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall; does dim duw ar wahân i mi. Dw i'n mynd i dy arfogi di, er nad wyt ti'n fy nabod.
6
Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin, wybod fod neb arall ond fi. Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall.
7
Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch, yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl — Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl.
8
Arllwys law i lawr, o awyr! Glawiwch gyfiawnder, gymylau! Agor, ddaear! er mwyn i achubiaeth dyfu, ac i degwch flaguro: Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi ei wneud.”
9
Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr, ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr! Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd, “Beth yn y byd wyt ti'n wneud?” neu, “Does dim dolen ar dy waith”?
10
Gwae'r un sy'n dweud wrth dad, “Beth wyt ti'n ei genhedlu?” neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”
11
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud — Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio: “Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant? Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?
12
Fi wnaeth y ddaear, a chreu y ddynoliaeth arni. Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr, a rhoi trefn ar y sêr.
13
A fi sydd wedi codi Cyrus i achub ac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd. Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i, ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhydd heb unrhyw dâl na gwobr,” —meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.
14
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affrica a'r Sabeaid tal, yn dod yn eiddo i ti. Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni, yn plygu o dy flaen di, ac yn pledio: ‘Dim ond gyda ti mae Duw, a does dim duw arall o gwbl!’”
15
Ti'n sicr yn Dduw sy'n cuddio ei hun, O Dduw Israel, yr un sy'n achub!
16
Bydd y rhai sy'n cerfio eilunod yn teimlo cywilydd ac embaras — byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd.
17
Y mae Israel yn saff gyda'r ARGLWYDD ac yn cael ei hachub am byth! Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embaras byth bythoedd!
18
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle — nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni: “Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall.
19
Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol, mewn rhyw le tywyll. Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob, ‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas’ — Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn, ac yn dweud y gwir.
20
Dewch yma at eich gilydd. Dewch ata i gyda'ch gilydd, chi ffoaduriaid y cenhedloedd! Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim, na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiau sydd ddim yn gallu achub!
21
Cyflwynwch eich tystiolaeth — gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd! Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw? Pwy soniodd am y peth o'r dechrau? Onid fi, yr ARGLWYDD? Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi! Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub — does dim un arall!
22
Dewch o ben draw'r byd; trowch ata i i gael eich achub! Achos fi ydy Duw, a does dim un arall.
23
Dw i wedi mynd ar fy llw, dw i'n dweud y gwir, fydda i'n cymryd dim yn ôl: ‘Bydd pob glin yn plygu i mi, a phob tafod yn tyngu i mi!
24
Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn a chryf!”’” Bydd y rhai gododd yn ei erbyn yn troi ato mewn cywilydd.
25
Bydd disgynyddion Israel yn cael eu hachub gan yr ARGLWYDD ac yn canu mawl iddo.
← Chapter 44
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 46 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66