bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 50
Isaiah 50
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 49
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 51 →
1
Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam pan anfonais hi i ffwrdd? I bwy oeddwn i mewn dyled nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw? Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg; cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.
2
Pam oedd neb yna pan ddes i? Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw? Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau? Ydw i'n rhy wan i achub? Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu! Galla i droi afonydd yn anialwch! Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr, wedi marw o syched!
3
Galla i wisgo'r awyr mewn du a'i gorchuddio â sachliain.”
4
Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran; dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig. Bob bore mae'n fy neffro i, ac yn fy nghael i wrando fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.
5
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando, a dw i ddim wedi gwrthryfela na throi fy nghefn arno.
6
Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio, a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf. Wnes i ddim cuddio fy wyneb oddi wrth yr amarch a'r poeri.
7
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu — felly dw i ddim yn derbyn yr amarch. Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint, a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.
8
Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth ymyl — Pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd! Pwy sydd am fy ngwrthwynebu i? Gadewch iddo ddod ata i!
9
Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i — Pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg? Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn; bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.
10
Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD? Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? — Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew, heb olau ganddo o gwbl, drystio'r ARGLWYDD a phwyso ar ei Dduw.
11
Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunain ac yn paratoi ffaglau — cerddwch yng ngolau fflam eich tân a'r ffaglau ydych wedi eu tanio! Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i: Byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!
← Chapter 49
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 51 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66