bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 17
Isaiah 17
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 18 →
1
Neges am Damascus. “Edrychwch ar Damascus! Dydy hi ddim yn ddinas bellach — mae hi'n bentwr o gerrig!
2
Bydd ei phentrefi yn wag am byth: lle i breiddiau orwedd heb neb i'w dychryn.
3
Bydd trefi caerog Effraim, a sofraniaeth Damascus yn diflannu. Bydd y rhai sydd ar ôl yn Syria yn yr un cyflwr ‛gwych‛ ag Israel!” —yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
4
“Bryd hynny, bydd gwychder Jacob wedi pylu, a'i gorff iach yn denau fel sgerbwd:
5
Yn lle bod fel cae o ŷd yn cael ei gynaeafu, a breichiau'r medelwr yn llawn, bydd fel y tywysennau sy'n cael eu lloffa yn Nyffryn Reffaïm —
6
dim ond ychydig loffion fydd ar ôl. Bydd fel ysgwyd coeden olewydd, a dim ond dau neu dri ffrwyth yn disgyn o'r brigau uchaf, a pedwar neu bump o'r prif ganghennau,” —meddai'r ARGLWYDD, Duw Israel.
7
Bryd hynny, bydd pobl yn troi at eu Crëwr. Byddan nhw'n edrych at Un Sanctaidd Israel am help,
8
yn lle syllu ar yr allorau godon nhw, polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarth — eu gwaith llaw eu hunain.
9
Bryd hynny, bydd eu trefi caerog fel yr adfeilion adawyd gan yr Amoriaid a'r Hefiaid pan ymosododd Israel arnyn nhw — wedi eu dinistrio'n llwyr.
10
Rwyt wedi anghofio'r Duw wnaeth dy achub; ac anwybyddu'r Graig — dy gaer ddiogel. Felly rwyt yn trin gerddi i'r ‛Anwylyd‛, a plannu sbrigyn i dduw estron!
11
Ti'n codi ffens o'i gwmpas y diwrnod rwyt yn ei blannu; ei weld yn blaguro y bore hwnnw a disgwyl pentwr o gynhaeaf! Ond y cwbl gei di fydd pryder a poen na ellir ei wella!
12
Gwae! Mae byddinoedd y gwledydd yn dod! Maen nhw'n rhuo fel tonnau'r môr; Mae sŵn y rhuo fel sŵn dŵr mawr yn llifo.
13
Ond er bod y bobl yn rhuo fel sŵn dŵr mawr, bydd Duw'n eu ceryddu, a byddan nhw'n ffoi. Byddan nhw'n cael eu gyrru fel mân us o flaen y gwynt, neu blu ysgall o flaen corwynt.
14
Fin nos, daw dychryn sydyn, ond erbyn y bore does dim ar ôl. Dyna fydd yn digwydd i'r rhai sy'n ein hysbeilio, dyna sy'n disgwyl y rhai sy'n ein rheibio!
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66