bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 23
Isaiah 23
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 24 →
1
Neges am Tyrus: Udwch, longau masnach Tarshish! Does dim porthladd i fynd adre iddo — achos mae wedi ei ddryllio! Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.
2
Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir, chi fasnachwyr Sidon. Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi;
3
croesi'r dyfroedd mawrion gyda had o Sihor a chynhaeaf yr Afon Nil; dyna oedd ei henillion — hi oedd marchnad y gwledydd.
4
Cywilydd arnat ti, Sidon! achos mae'r môr — y gaer ddiogel honno — wedi dweud, “Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant. Dw i heb fagu bechgyn ifanc na merched ifanc!”
5
Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth byddan nhw'n gwingo mewn poen wrth glywed am Tyrus.
6
Croeswch drosodd i Tarshish — Udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!
7
Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi? — y ddinas sydd a hanes mor hen iddi? Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?
8
Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus, y ddinas oedd yn gwisgo coron, a'i masnachwyr yn dywysogion ac yn bobl mor bwysig?
9
Yr ARGLWYDD holl-bwerus drefnodd y peth — i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch, a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.
10
Hwyliwch adre bobl Tarshish, i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil; does dim harbwr i chi yma bellach.
11
Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môr gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn! Yr ARGLWYDD roddodd orchymyn i ddinistrio trefi caerog Canaan.
12
Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch ferch Sidon, sydd wedi ei gorthrymu.” Dos! cod, a chroesa drosodd i Cyprus, Ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!
13
Edrychwch ar wlad Babilonia — y bobl sydd wedi peidio â bod! Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwylltion. Codi tyrau i warchae arni, ysbeilio ei phlastai a'i throi yn adfeilion.
14
Udwch, longau masnach Tarshish, achos mae eich caer ddiogel wedi ei dinistrio!
15
Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:
16
Cymer delyn, crwydra'r ddinas, butain a anghofiwyd; Cân dy alaw unwaith eto, i wneud i bobl gofio.
17
Achos ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi.
18
Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD. Fydd e ddim yn cael ei gadw a'i storio; bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66