bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 21
Isaiah 21
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 22 →
1
Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon): Fel y gwyntoedd stormus sy'n rhuthro drwy'r Negef, mae e'n dod o'r anialwch, o wlad sydd i'w hofni.
2
Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi: “Mae'r bradwr yn bradychu, a'r dinistrydd yn dinistrio! Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media! Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi ei achosi.”
3
Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd; Mae poenau yn gafael yno i fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed, ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.
4
Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig. Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:
5
Mae “Trefnwch wledd” wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!” “Bwytwch ac yfwch!” wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tariannau!”
6
Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i: “Dos, gosod wyliwr i edrych allan, a dweud beth mae'n ei weld.
7
Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau, marchog ar asyn neu farchog ar gamel, dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”
8
Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel: “Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd, ac wedi edrych allan bob nos.
9
Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod — Dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!” Ac mae'n gweiddi'n uchel, “Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio! Mae'r delwau o'i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!”
10
Chi sydd wedi dioddef — fy mhobl ar fy llawr dyrnu: Dw i wedi dweud wrthoch chi beth glywais i gan yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel.
11
Neges am Dwma. Mae rhywun yn galw arna i o Seir: “Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl? Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”
12
Atebodd y gwyliwr, “Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl. Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch. Trowch! Dewch yn ôl!”
13
Neges am Arabia. Cuddiwch yn nrysni'r anialwch, chi grwydriaid Dedan!
14
Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig, chi sy'n byw yn Tema; rhowch fara i'r ffoaduriaid,
15
achos maen nhw'n dianc rhag y rhyfel: rhag y cleddyf wedi ei dynnu o'r wain, rhag y bwa sy'n barod i saethu, a rhag caledi'r frwydr.
16
Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod;
17
nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66