bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 33
Isaiah 33
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 34 →
1
Gwae ti'r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio; ti'r bradwr sydd heb gael dy fradychu! Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio; pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu!
2
O ARGLWYDD, bydd yn drugarog wrthon ni! Dŷn ni'n disgwyl amdanat ti. Bydd di yn nerth i ni yn y bore, ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl.
3
Pan wyt ti'n rhuo mae pobl yn ffoi! Pan wyt ti'n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru!
4
Mae'r ysbail maen nhw'n ei adael yn cael ei gasglu fel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno.
5
Mae'r ARGLWYDD mor ardderchog! Mae'n byw yn yr uchelder! Mae'n llenwi Seion gyda chyfiawnder a thegwch.
6
Fe sy'n rhoi sicrwydd iddi bob amser. Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth, a pharch at yr ARGLWYDD — dyna ei drysor iddi.
7
Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan! Mae negeswyr heddwch yn wylo'n chwerw!
8
Mae'r priffyrdd yn wag! Mae'r teithwyr wedi diflannu! Mae'r cytundebau wedi eu torri, a'r tystion yn cael eu dirmygu. Does dim parch at fywyd dynol.
9
Y fath alar! Mae'r tir wedi darfod amdano! Mae Libanus yn crino a gwywo! Mae Saron fel anialwch, a Bashan a Carmel wedi colli eu dail.
10
“Dw i'n mynd i godi nawr,” meddai'r ARGLWYDD, “Dw i'n mynd i godi i fyny, cewch weld mor uchel ydw i!
11
Dim ond us dych chi'n ei feichiogi; dim ond gwellt fydd yn cael ei eni! Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi!
12
Bydd eich pobl fel calch wedi ei losgi, neu ddrain wedi eu torri a'u rhoi ar dân.
13
Chi sy'n bell i ffwrdd, gwrandwch beth dw i wedi ei wneud! A chi sy'n agos, gwelwch mor nerthol ydw i.”
14
Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn, Mae'r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn. “Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma? Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?”
15
Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elwa drwy dwyll, na derbyn breib, yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed, ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg.
16
Person felly fydd yn saff rhag y cwbl, a chreigiau uchel yn gaer o'i gwmpas. Bydd bwyd yn cael ei roi i'w gynnal a bydd digonedd o ddŵr iddo.
17
Byddi'n gweld brenin yn ei holl ysblander, a thir eang yn ymestyn i'r pellter.
18
Byddi'n cofio am yr ofn a fu unwaith, “Ble mae'r un oedd yn cyfri'r trethi? Ble mae'r un oedd yn pwyso'r arian? Ble mae'r un oedd yn cyfri'r tyrau?”
19
Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto — yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall, ac yn paldaruo'n ddiystyr.
20
Dychmyga Seion, dinas ein gwyliau crefyddol! Byddi'n gweld Jerwsalem fel lle tawel i fyw — pabell does dim rhaid ei phacio, gyda pegiau fydd neb yn eu tynnu byth eto, a rhaffau fydd byth yn torri.
21
Bydd yr ARGLWYDD yno gyda ni yn ei fawredd! Ardal o afonydd a ffrydiau llydan yn llifo, ond heb longau gali sy'n cael eu rhwyfo na llongau hwylio mawr yn mynd heibio.
22
Yr ARGLWYDD ydy'n barnwr ni, Yr ARGLWYDD ydy'n llywodraethwr ni, Yr ARGLWYDD ydy'n brenin ni — fe ydy'r un fydd yn ein hachub ni!
23
Byddi'n cael dy ddarn o dir a fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflag na chodi eu baner yno. Bydd digonedd o ysbail i gael ei rannu, a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr.
24
Fydd neb sy'n byw yno'n dweud, “Dw i'n sâl!” Bydd y bobl sy'n byw yno wedi cael maddeuant am bob bai.
← Chapter 32
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 34 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66