bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 19
Isaiah 19
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 20 →
1
Neges am yr Aifft. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn marchogaeth ar gwmwl cyflym, ac yn dod i'r Aifft. Bydd eilunod diwerth yr Aifft yn crynu o'i flaen, a bydd yr Eifftiaid yn digalonni.
2
“Achos bydd gwrthdaro sifil yn yr Aifft; bydd yr Eifftwyr yn ymladd ei gilydd, un yn erbyn y llall, dinas yn erbyn dinas, teyrnas yn erbyn teyrnas.
3
Bydd yr Aifft wedi anobeithio, a bydda i wedi drysu ei chynlluniau. Byddan nhw'n troi at eu heilunod diwerth am arweiniad, ac at yr ysbrydegwyr, y dewiniaid a'r rhai sy'n dweud ffortiwn.
4
Bydda i'n rhoi'r Eifftiaid yn nwylo meistri gwaith caled, a bydd brenin creulon yn teyrnasu arnyn nhw.” —y Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus sy'n dweud hyn.
5
Bydd yr Afon Nil yn sychu, a gwely'r afon yn grasdir sych.
6
Bydd y camlesi yn drewi, canghennau'r Afon Nil yn sychu, a'r brwyn a'r hesg yn pydru.
7
Bydd y tir ar y delta yn ddiffaith, a bydd popeth sy'n cael ei hau ar y lan yn crino ac yn cael ei chwythu i ffwrdd — fydd dim ar ôl.
8
Bydd y pysgotwyr yn galaru ac yn cwyno — pawb sy'n taflu bachyn i'r afon, neu'n bwrw rhwyd ar wyneb y dŵr.
9
Bydd y gweithwyr llin yn gofidio hefyd, y rhai sy'n cribo a'r gwehyddion.
10
Bydd y rhai sy'n gwneud brethyn wedi eu llethu gan bryder, a phawb sy'n cael eu cyflogi wedi torri eu calonnau.
11
Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid. Mae cynghorwyr mwya doeth y Pharo yn dweud pethau cwbl hurt! Sut allwch chi ddweud wrth y Pharo, “Dw i'n un o'r rhai doeth, o urdd yr hen frenhinoedd”?
12
Ble maen nhw? Ble mae dy rai doeth di? Gad iddyn nhw ddweud wrthot ti a deall beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud i'r Aifft.
13
Mae arweinwyr Soan yn ffyliaid, ac arweinwyr Memffis wedi eu twyllo; Mae penaethiaid ei llwythau wedi arwain yr Aifft ar gyfeiliorn.
14
Mae'r ARGLWYDD wedi ei chymysgu a'i drysu, a gwneud iddi faglu dros bobman, fel meddwyn yn mynd igam-ogam yn ei gyfog.
15
All neb wneud dim i helpu'r Aifft — pen na chynffon, cangen balmwydd na brwynen.
16
Bryd hynny bydd yr Eifftiaid yn wan fel merched. Byddan nhw'n crynu mewn ofn am fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn codi ei law i'w taro nhw.
17
Bydd sôn am Jwda'n codi dychryn ar yr Aifft. Bydd pawb fydd yn cofio ei arwyddion yn crynu wrth feddwl am beth mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn bwriadu ei wneud iddyn nhw.
18
Bryd hynny bydd pum tref yn yr Aifft yn siarad iaith Canaan ac yn tyngu llw o ffyddlondeb i'r ARGLWYDD holl-bwerus. Dinas yr Haul fydd enw un ohonyn nhw.
19
Bryd hynny bydd allor i'r ARGLWYDD yng nghanol yr Aifft, a colofn wedi ei chysegru i'r ARGLWYDD ar y ffin.
20
Bydd yn arwydd i atgoffa'r Aifft pwy ydy'r ARGLWYDD holl-bwerus. Pan fyddan nhw'n gweiddi ar yr ARGLWYDD am help yn erbyn y rhai sy'n eu gorthrymu nhw, bydd e'n anfon un i'w hachub nhw ac ymladd drostyn nhw.
21
Achos bydd yr ARGLWYDD yn datguddio ei hun i'r Eifftiaid, a byddan nhw'n dod i'w nabod e bryd hynny. Byddan nhw'n ei addoli gydag aberth ac offrwm o rawn, yn gwneud addunedau iddo, ac yn eu cadw.
22
Os bydd yr ARGLWYDD yn taro'r Aifft gyda phla, bydd yn ei tharo ac yna yn ei gwella. Os byddan nhw'n troi yn ôl at yr ARGLWYDD, bydd e'n ymateb iddyn nhw ac yn eu hiacháu nhw.
23
Bryd hynny, bydd priffordd o'r Aifft i Asyria. Bydd yr Asyriaid yn mynd i'r Aifft, a'r Eifftiaid yn mynd i Asyria, a bydd yr Eifftiaid a'r Asyriaid yn addoli gyda'i gilydd.
24
Bryd hynny, Israel fydd y trydydd partner gyda'r Aifft ac Asyria ac yn cael eu bendithio ar y ddaear,
25
Bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn eu bendithio nhw, ac yn dweud, “Bendith ar yr Aifft, fy mhobl, ac ar Asyria, gwaith fy llaw, ac ar Israel, fy etifeddiaeth.”
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66