bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 28
Isaiah 28
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 29 →
1
Gwae Samaria! Bydd coron falch meddwon Effraim yn syrthio, a'i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo — blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Maen nhw'n chwil gaib!
2
Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol — fel storm pan mae'r glaw yn arllwys i lawr ac yn bwrw popeth i'r llawr.
3
Bydd coron falch meddwon Effraim wedi ei sathru dan draed,
4
a'i blodau wedi gwywo — y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i'r cynhaeaf ddod. Bydd rhywun yn sylwi arni ac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi.
5
Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn goron hardd, ac yn dorch wedi ei phlethu'n hyfryd i'r bobl fydd wedi eu gadael ar ôl.
6
Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu, a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas.
7
Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win; maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw. Mae'r offeiriad a'r proffwyd wedi meddwi'n gaib ar gwrw a drysu'n lân ar win. Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw, a'i gweledigaethau'n ddryslyd; maen nhw'n baglu wrth farnu.
8
Mae chwŷd a charthion dros y byrddau i gyd, does dim lle'n lân o gwbl.
9
“Pwy mae e'n gallu ei ddysgu? I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth? I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest?
10
Dim ond ailadrodd llythrennau'r wyddor, ‘a, b,’ ‘a, b,’ ‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’ tyrd yma, bach; fan yma, bach!”
11
O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhw fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.
12
Roedd wedi dweud wrthyn nhw: “Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys; dyma le i chi orwedd i lawr.” Ond doedd neb yn fodlon gwrando.
13
Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw: “‘a, b,’ ‘a, b,’ ‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’ tyrd yma, bach; fan yma, bach!” Wrth geisio mynd yn eu blaenau byddan nhw'n syrthio ar eu tinau, yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal.
14
Felly dyma neges yr ARGLWYDD i chi sy'n gwawdio; chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!
15
Chi sy'n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb gyda Marwolaeth, a taro bargen i osgoi'r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”
16
Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.
17
Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur, a tegwch yn llinyn plwm. Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio, a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi.
18
Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri, a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu. Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd, chi fydd yn diodde'r difrod.
19
Bydd yn eich taro chi bob tro y bydd yn dod heibio. Bydd yn dod un bore ar ôl y llall, bob dydd a bob nos.” Bydd deall y neges yma yn achosi dychryn ofnadwy.
20
Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno, a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!
21
Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; bydd yn cyffroi i wneud ei waith fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon — ond bydd yn waith rhyfedd! Bydd yn cyflawni'r dasg — ond bydd yn dasg ddieithr!
22
Felly, stopiwch wawdio, rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau. Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus, yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan.
23
Gwrandwch yn astud ar hyn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud.
24
Ydy'r sawl sy'n aredig yn aredig drwy'r amser heb hau? Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid?
25
Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'n gwasgaru ffenigl a hadau cwmin? Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes, haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?
26
Ei Dduw sy'n ei ddysgu; mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo.
27
Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled, na cwmin gydag olwyn trol. Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon, a cwmin gyda gwialen.
28
Mae gwenith yn cael ei falu, ond ddim yn ddiddiwedd. Mae olwyn trol yn rholio trosto, ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru.
29
A'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd — Mae ganddo gynllun gwych, ac mae'n rhyfeddol o ddoeth.
← Chapter 27
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 29 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66