bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
/
Isaiah 57
Isaiah 57
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
← Chapter 56
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 58 →
1
Mae rhywun cyfiawn yn marw, a does neb yn malio. Mae pobl ffyddlon yn cael eu cymryd, a does neb yn sylweddoli fod y cyfiawn yn cael eu symud i'w harbed rhag y drwg sy'n dod.
2
Bydd y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn profi heddwch, ac yn cael gorffwys ar eu gwlâu.
3
Dewch yma, chi blant y rhai sy'n dweud ffortiwn; disgynyddion y rhai sy'n godinebu ac yn puteinio!
4
Ar ben bwy ydych chi'n gwneud sbort? Ar bwy ydych chi'n gwneud ystumiau ac yn tynnu tafod? Dych chi'n blant i rebeliaid, yn ddisgynyddion rhai sy'n dweud celwydd;
5
a'ch nwydau rhywiol yn llosgi wrth addoli dan bob coeden ddeiliog. Chi sy'n aberthu plant yn y dyffrynnoedd, ac yn hafnau'r creigiau.
6
Cerrig llithrig yr hafnau ydy dy gyfran di; mentra di gyda nhw! Iddyn nhw rwyt ti wedi tywallt dy offrwm o ddiod, a chyflwyno dy offrwm o fwyd. Ddylwn i ymatal rhag dial yn wyneb hyn i gyd?
7
Rwyt yn gwneud dy wely ar ben pob mynydd uchel; ac yn mynd yno i gyflwyno dy aberthau.
8
Er fod arwydd wedi ei osod tu ôl i ffrâm drws dy dŷ, ti wedi ngadael i a gorwedd yn agored ar dy wely. Ti wedi ymrwymo dy hun i'r duwiau, wedi mwynhau gorweddian yn noeth a dewis dilyn dy chwantau.
9
Yna mynd i lawr i weld y brenin gyda rhoddion o olew a llwyth o bersawr. Anfonaist negeswyr at un oedd yn bell i ffwrdd, hyd yn oed i Annwn!
10
Er fod yr holl deithio'n dy flino, wnest ti ddim rhoi i fyny! Llwyddaist i gael digon o egni i ddal ati.
11
Pwy oedd yn dy boeni a gwneud i ti ofni a dweud celwydd? Doeddet ti ddim yn meddwl amdana i nac yn cymryd unrhyw sylw ohona i. Ai'r rheswm wyt ti ddim yn fy ofni i ydy mod i wedi bod yn ddistaw mor hir?
12
Gwna i ddweud beth dw i'n feddwl o dy weithredoedd da: fydd y rheiny ddim yn gallu dy helpu!
13
A fydd dy gasgliad o dduwiau ddim yn dy helpu pan fyddi di'n gweiddi — does dim bywyd nag anadl ynddyn nhw! Ond bydd y rhai sy'n troi ata i yn meddiannu'r tir ac yn etifeddu fy mynydd cysegredig i.
14
Dyma fydd yn cael ei ddweud: Adeiladwch! Adeiladwch! Cliriwch y ffordd! Symudwch bob rhwystr o ffordd fy mhobl!
15
Dyma mae'r Un uchel iawn yn ei ddweud, yr un sy'n aros am byth, a'i enw yn sanctaidd: Dw i'n byw mewn lle uchel a sanctaidd, ond dw i hefyd gyda'r rhai gostyngedig sydd wedi eu sathru — dw i'n adfywio'r rhai gostyngedig, ac yn codi calon y rhai sydd wedi eu sathru.
16
Dw i ddim yn mynd i ddadlau drwy'r adeg, na dal dig am byth. Dw i ddim eisiau i ysbryd y bobl ballu, gan mai fi sy'n rhoi anadl iddyn nhw fyw.
17
Roeddwn i'n ddig am eu bod yn elwa trwy drais. Dyma fi'n eu taro, a troi i ffwrdd wedi digio, ond roedden nhw'n dal i fynd eu ffordd eu hunain!
18
Do, dw i wedi gweld beth mae nhw'n wneud, ond dw i'n mynd i'w hiacháu nhw. Dw i'n mynd i'w harwain a'u cysuro; cysuro'r rhai sy'n galaru,
19
a rhoi lle iddyn nhw ddathlu: Heddwch a llwyddiant i bawb yn bell ac agos! Dw i'n mynd i'w hiacháu nhw,” —meddai'r ARGLWYDD.
20
“Ond bydd y rhai drwg fel môr stormus sy'n methu bod yn dawel, a'i ddŵr yn corddi'r llaid a'r baw.
21
Fydd dim heddwch i bobl ddrwg,” —meddai fy Nuw.
← Chapter 56
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 58 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66